Cynnyrch Data Cwmni Am Ddim

Beth yw e?

Mae’r Cynnyrch Data Cwmni Am Ddim yn giplun data y gellir ei lawrlwytho sy’n cynnwys data cwmni sylfaenol am gwmnïau sy’n weithredol ar y gofrestr. Darperir y ciplun fel ffeiliau sip ac ynddynt ddata ar fformat CSV ac mae wedi’i rannu’n nifer o ffeiliau i’w gwneud yn haws ei lawrlwytho.

Darperir y ciplun hwn am ddim ac ni fydd cymorth iddo. Sylwer, bydd y cynnyrch hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Pryd gaiff ei ddiweddaru?

Caiff y ciplun diweddaraf ei ddiweddaru cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl diwedd y mis blaenorol.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae cynnwys y ciplun wedi cael ei gydgasglu hyd at ddiwedd y mis blaenorol.

Gellir gweld rhestr o’r meysydd data a geir yn y ciplun yma PDF (Saesneg yn unig).

Gellir cael gwybodaeth gyfredol am gwmnïau trwy ddilyn y dolenni URL yn y data. Mwy o fanylion am URI.

Os ydych yn edrych ar y ffeiliau gyda Microsoft Excel, argymhellir i chi ddefnyddio fersiwn 2007 neu fersiwn ddiweddarach.

Cwestiynau Cyffredin am Gynnyrch Data Cwnmi

Sut i lawrlwytho data Cwmni

Gallwch naill ai lawrlwytho data Cwmni fel un ffeil mawr neu fel ffeiliau lluosrif llai (er hwylustod llawrlwytho). Sylwer: Saesneg yn unig fydd y data.

Data Cwmni fel ffeil unigol:

Data Cwmni fel ffeiliau lluosrif:

Diweddarwyd diwethaf: 01/04/2024